Betws Gwernrhiw
Lleolir Betws (neu Bettws) Gwernrhiw ger porthdy Glynllifon, ger Llandwrog. Mae awgrym fod mai hen adfeilion yw’r lle hwn sy’n dyddio o gwmpas adeg Rhyfeloedd y Groes, gan fod tueddiad i’r gair ‘Bettws’ ei chysylltu a ‘Ysbyty’. Credir i’r lle yma ar un adeg fod yn Eglwys deuluol i deulu’r Glyn (Glynllifon). Gelwir y lle ar rhai adegau yn ‘Ysbytty y Plas Newydd’. Dywedai’r hanesydd W. Gilbert Williams fod y lle hwn yn westy ar un adeg, o ddiolch i’w leoliad cyfleus ar y ffordd rhwng Caernarfon a Pwllheli. Honnir ef hefyd fod dirprwywr wedi cynnal achos llys yn Bettws Gwernrhiw o gwmpas 1616, ac ei fod yn amlwg fod y lle hwn wedi bod yn hynod o arwyddocaol yn ei ddydd.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Ffynonellau
Ambrose, W. R. Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle (Penygroes, 1872)
Williams, W. Gilbert Moel Tryfan i'r Traeth. Erthyglau ar hanes plwyfi Llanwnda a Llandwrog (Cyhoeddiadau Mei, Penygroes 1983)