Llyfni Huws

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:08, 17 Mawrth 2020 gan 78.144.89.69 (sgwrs)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ganwyd William Llyfni Huws (1889-1962) ar yr ail o Fehefin 1889 yn Llys y Delyn, Pen-y-groes], yn gyw melyn olaf chwe phlentyn William Hughes (a anwyd yn Llanllechid), a Jane ei wraig (o ardal Llangwnnadl yng ngwlad Llŷn, a pherthynas, fe ddywedid, i Dic Aberdaron). Ganwyd y ddau riant ym mlwyddyn y Llyfrau Gleision, 1847. Mab arall i William a Jane oedd y bardd Llyfnwy.

Roedd yr aelwyd yn 30 Stryd y Bedyddwyr ym Mhen-y-groes yn un ddiwylliedig iawn mae'n amlwg. Gwyddom fod William Hughes y tad yn gryn englynwr a dysgodd ei grefft farddonol trwy gyfrwng llyfr cynganeddion a fenthycodd oddi wrth Urias Stephens, gweithiwr yng ngorsaf rheilffordd Pen-y-groes.

Daeth Llyfni i sylw'r genedl gyfan pan enillodd ar yr unawd canu penillion dan 18 oed yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon ym 1906 (Annus Mirabilis Mary King Sarah). Gyda chymorth y Cymro enwog hwnnw, Syr O.M. Edwards, cafodd y llanc talentog fynd at Gwenynen Gwent i Lanofer am gyfnod i weithio a chael gwersi yno ar ganu'r delyn deires.

Ar 23 o Fawrth 1923, yng Nghapel Pen-dref, Llanfyllin, priododd Llyfni Huws â merch o'r enw Matilda (Mallt) Jane Owen (1898-1987) o Lanwnnog yn Sir Drefaldwyn. Roedd hi yn ferch gerddorol iawn ac fe'i galwai ei hun yn ddiweddarach yn Gerddores Eryri. Fe'i hurddwyd yn Eisteddfod Corwen ym 1919.

Dilynodd Llyfni ei dad i'r chwarel ac yno y bu'n gweithio hyd ddydd ei briodas. Yna daeth yn argraffydd ac yn siopwr bach, gan ei anfarwoli ei hun fel bardd a cherddor, yn ganwr penillion o fri cenedlaethol ac yn delynor hyfedr.

Bu farw at y 4ydd o Ebrill 1962, ac fe'i claddwyd ym Mynwent Macpela, Pen-y-groes. Yn fuan wedi ei gladdu canfu ei weddw, Mallt, englyn a gyfansoddodd Llyfni i'w roi ar ei garreg fedd ei hun. A dyna'n wir a wnaed. Dyma'r englyn :

         Carodd Dduw, do, carodd ddyn, - carodd lên,
               Carodd lunio englyn ;
             Carodd wau â'r tannau tyn
             Iaith ei dylwyth a'i delyn.

Cyhoeddodd Llyfni (a Mallt) bum llyfr cerdd pwysig :

1930 : Aelwyd y Delyn Rhan 1

1934 : Llyfr Penillion Telyn

1944 : Aelwyd y Delyn Rhan 2

1951 : Aelwyd y Delyn Rhan 3

1952 : Aelwyd y Delyn Rhan 4

Ym 1968 cyhoeddodd Mallt Huws gyfrol goffa i'w gŵr dan y teitl Cyfrol Goffa Llyfni Huws, a'i chyflwyno i'w dwy ferch, Llinos Llyfni a Heulwen Mai.