Morus Glynn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:36, 2 Mawrth 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd y Dr Morus Glynn (marw 1525) yn fab hynaf i Robert ap Meredydd, pennaeth Teulu Glynn (Glynllifon) a'i wraig Ellen Bulkeley o Fiwmares. Fe'i gymhwysodd yn Ddoethur yn y Gyfraith, ac yn cael gyrfa lewyrchus yn yr Eglwys. Yn y man fe'i ddyrchafwyd yn Archddiacon Meirionnydd, tra oedd ei frawd iau, y Dr William Glynn yn Archddiacon Môn. Roedd hefyd yn rheithor Llaniestyn yn Llŷn, ac yn rheithor Llansadwrn, Llanddeusant a Llangadwaladr ym Môn.[1]

Fel offeiriad yn yr Eglwys Gatholig, ni chaffai briodi, ac o'r herwydd, fe'i ddilynwyd fel perchennog Ystad Glynllifon fel ei frawd iau, Edmund Llwyd.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Y Bywgraffiadur Cymreig, (Llundain, 1953), t.262
  2. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey & Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), tt.172-3