Sgwner y ''Zion Hill''
Y Zion Hill oedd yr ail o dair llong y gwyddys amdanynt a godwyd yn Nhrefor. Fe'i hadeiladwyd ym 1866 dyda dau fast, yn sgwner gweddol ei maint yn ei chyfnod, yn 93 tunnell o ran tunelledd. Ei hadeiladydd oedd Evan Thomas. Fe'i gwerthwyd i berchnogion newydd o Lwch Garmon (Wexford) yn Ne Iwerddon ym 1891 [1]
Cyfeiriadau
- ↑ David Thomas, Hen Longau Sir Gaernarfon, (Caernarfon, 1952), t.206