Tom Bowen Jones
Ffermwr, pysgotwr, cenedlaetholwr a bardd oedd Tom Bowen Jones (19 - ), Gwydir bach, Trefor. Yr oedd yn frawd i Robert Herbert Jones, bardd arall crefftus, a adweinid fel Robin Gwydir Bach.[1]
Yn Awst 1968 cynhaliwyd Y Genedlaethol yn Y Barri a’r Fro. Testun yr englyn oedd Map a’r enillydd oedd Tom Bowen Jones. Rhestrir yr englyn ymhlith dwsin englyn gorau yr Eisteddfod Genedlaethol yn y ganrif ddiwethaf, yn ôl Dafydd Islwyn[2].
Map Yn hwn o hyd chwilio a wnaf -ar fy hynt Am ryw fan a geisiaf; Ond ynddo chwilio ni chaf Yn niwl y siwrne olaf.
Ar y cyd â Tecwyn Jones, bardd gwlad o Eifionydd, fe gyhoeddodd ddetholiad o gerddi ym 1981. [3].
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma