Evan Jones (Senoj Nave)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 23:52, 12 Chwefror 2020 gan Geraint (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Chwarelwr yn Chwarel yr Eifl, Trefor, oedd Evan Jones, 46 Farren Street, Trefor, ac yn frodor o Lanfairfechan. Daeth i Drefor yn ifanc iawn a'i hoff ddileit oedd barddoni. Er nad oes cyfrol o'i waith hyd yma, mae ei gynnyrch i'w weld yn aml yng nghylchgrawn misol i blant yr Annibynwyr, Dysgedydd y Plant, ac yn y cylchgrawn i ferched (yn bennaf), sef Y Frythones ym mlynyddoedd ail hanner y 19eg ganrif.

Roedd ganddo ddau enw barddol - IANTO oedd y naill, a SENOJ NAVE oedd y llall, hwn, wrth gwrs, yn Evan Jones tu-ôl-ymlaen. Mae'n un o'r beirdd mwyaf toreithiog a fu yn yr ardal hon erioed. Yn aml, cydweithiai â'i frawd Robert, oedd yn gerddor da. Byddai Robert yn cyfansoddi'r dôn ac Evan, ei frawd, yn cyfansoddi'r geiriau. Roedd rhai o aelodau'r teulu hwn yn forwyr ac fe ganodd Evan nifer o gerddi morwrol. Dyma ddwy o'r cerddi hynny.


Y MORWR


Dros foroedd dyfnion, geirwon,

Yr â y morwr llon,

Heb deimlo unrhyw arswyd

Na dychryn yn ei fron ;

Bydd mewn peryglon mawrion

A hynny braidd o hyd,

Er hynny, hynod ddedwydd

Yw'r morwr ar bob pryd.


Fe wasanaetha'r morwr

Drigolion yr holl fyd,

A hebddo ef fe fuasai

Yn chwith i ni i gyd ;

Tydi o Dduw y duwiau,

Sydd â'r gwyntoedd yn dy law,

O, cynnal di y morwr,

A chadw'r stormydd draw.


Senoj Nave : Mawrth 1884


GWEDDI GWRAIG Y MORWR


Ymferwai a rhuai yr eigion,

A'r nefoedd uwchben oedd yn ddu,

Ymwibiai y mellt fel ellyllon,

A rhuai'r taranau yn gry'

Ymruthrai y gwynt yn ddychrynllyd,

A lluchid y llong ar bob llaw,

A'r tonnau ymchwyddent i'r entrych,

Nes llanw pob mynwes â braw.


Ar lan y brochus li, roedd gwraig y morwr gwiw,

Yr hon ddyrchafai'i chri i'r nefoedd fry at Dduw,

Edrychai hi yn syn, a'i chalon oedd yn brudd,

Gweddio oedd fel hyn, a'r dagrau ar ei grudd.


           "Fy annwyl Arglwydd Iesu,
           O ! clyw fy llefain i,
           Edrycha ar fy mhriod,
           Sydd ar y tonnog li ;
           O ! estyn di ymwared
           I 'mhriod, Iesu gwiw,
           Bydd Di'n amddiffyn iddo,
           O ! cadw ef yn fyw."


Y gwynt a ostegodd,

A'r môr a dawelodd,

Achubwyd y morwr ardderchog ;

Pwy ŵyr na wrandawyd

Y weddi ddyrchafwyd ?

Un hynod yw Duw, a thrugarog.


Evan Jones, 46 Farren Street, Trefor


Dyma rai o deitlau cerddi eraill ganddo :

Llongddrylliad yr Apostol Paul

Marwnad ar ôl y diweddar William R. Roberts, Trefor

ER COF am Henry Griffith, Llechgaran, yr hwn oedd flaenor parchus yng nghapel Saron [Bedyddwyr Llanaelhaearn]. Bu farw Mai 1882 yn 76 mlwydd oed.

Ffynnon Calfaria

Gwrthrych Cariad

"Clyw, o Dduw, fy llefain"

Fy chwaer, Mary Jones, Mona View, Llanfairfechan, a fu farw Medi 1af, 1879, yn 26 oed.

Cartref y Meddwyn

Yr Ysmociwr

Hiraeth am Gymru

O Paid

Erfyniad ar Dduw

Y Fynwent [1]

Y Fynwent [2]

Y Nefoedd

Angau Crist

Fy Mam (Efelychiad)

Derbyn fi

Clod i'r Iesu