R. Bonner Thomas

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:56, 12 Chwefror 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Bardd oedd 'Bonar', sef William Bonner Thomas, (1881-1909), a fagwyd ym Mryn Awen, Trefor. Bu farw'n ifanc o'r tyciâu (darfodedigaeth - TB). Bu farw tri brawd arall iddo o'r un afiechyd ac o fewn yr un cyfnod o ryw 6-7 mlynedd.

Roedd Bonar yn aelod ffyddlon yng nghapel Gosen (MC) ac yn aelod brwd o Fyddin y Rhuban Glas a'r Temlwyr Da, dau fudiad dirwest. Yn wir, dirwest yw ei brif destun fel bardd. Roedd hefyd yn athro Ysgol Sul.

Mae ganddo farddoniaeth yn y cylchgrawn Y Gymraes, Ionawr 1905, y cylchgrawn arbennig hwnnw dan olygyddiaeth Ceridwen Peris, gwraig William Jones, gweinidog Ebeneser (MC), Y Ffôr, oedd yn amlwg iawn yn y mudiad dirwest ganrif a rhagor yn ôl. Enw'r darn i'w adrodd yw BLWYDDYN NEWYDD WEN.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma Catgeori:Beirdd