Caer Arianrhod
Ynys garegog fechan a ymddengys ar ddistyll trai mawr yn y môr rhwng Dinas Dinlle a Phontllyfni yw Caer Arianrhod. Cysylltir hi a phedwaredd gainc y Mabinogi. Yn ôl y chwedl, roedd y ‘Gaer’ hon yn gartref i Arianrhod,ferch Don a mam Lleu Llaw Gyffes. Cyfeirnod grid y lleoliad hwn yw SH431545.