W.G. Jones

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:49, 7 Chwefror 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Bu William Griffith Jones (1853-1951) yn Rheithor plwyf Llanaelhaearn o 1922 hyd 1947.

Brodor o Lanberis ydoedd ac wedi ei eni ym 1873. Cafodd ei addysg yn y Bangor School of Divinity, ac fe'i ordeiniwyd yn ddiacon ym 1907 ac yn offeiriad ym 1908.

1907-16 : Curad Ffestiniog a Maentwrog

1916-22 : Curad Llanbedrog a Llangian

1922-47 : Rheithor Llanaelhaearn

Tra yn y plwyf hwn, cyfansoddodd ddrama, Helynt yr Arian Benthyg, ac fe'i perfformiwyd, ym mis Rhagfyr 1927, yn Neuadd Trefor, gan gwmni drama Eglwys Sant Siôr, Trefor, gyda'r elw tuag at gynorthwyo'r di-waith yn y pentref.

Ymddeolodd ym 1947 a symudodd i fyw at ei fab, Dr. Jones, yn Lerpwl. Bu farw ym 1951 yn 79 oed ac fe'i claddwyd yn Llanaelhaearn ar yr 22ain o Ragfyr.