Cylch yr Eifl, Trefor

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:17, 17 Tachwedd 2020 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Cymdeithas ddiwylliannol oedd Cylch yr Eifl a oedd yn cyfarfod yn Y Ganolfan yn Nhrefor yn fisol yn ystod y gaeaf.

Sefydlwyd Cylch yr Eifl dros ugain mlynedd yn ôl a'i ddiben pennaf oedd hyrwyddo a diogelu'r Gymraeg a'r diwylliant Cymreig ym mhentref Trefor, yn ogystal ag addysgu a difyrru ei aelodau. Y prif ysgogydd a fu'n gyfrifol am sefydlu'r Cylch oedd y ddiweddar Margaret Williams, Glanfa, Trefor, a thros y blynyddoedd bu nifer o aelodau eraill yn gweithredu fel llywyddion, ysgrifenyddion a thrysoryddion.

Arferai'r Cylch gyfarfod ar brynhawniau Iau yn Y Ganolfan a thros y blynyddoedd ymwelodd dwsinau lawer o siaradwyr â'r gymdeithas gan ymdrin ag ystod eang o feysydd, yn hanes, cerddoriaeth, llenyddiaeth, llên, gwerin, atgofion ac yn y blaen. Hefyd byddai'r aelodau'n mwynhau gwibdeithiau difyr bob haf.

Bu Cylch yr Eifl yn rhan bwysig o ddiwylliant pentref Trefor am oddeutu dau ddegawd ond, fel yn achos llawer cymdeithas o'i bath, roedd nifer yr aelodau'n prinhau ac yn heneiddio yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Oherwydd y rhesymau hynny daeth i ben ysywaeth yn nechrau 2020.

Cyfeiriadau

Gwybodaeth bersonol

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma