Syr Thomas Wynn, Barwnig 1af

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:58, 27 Ionawr 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Penteulu teulu Wynniaid Boduan ym Mhen Llŷn oedd Thomas Wynn (1678-1749), a wnaed yn farwnig ym 1742. Mab ydoedd i Griffith Wynn, sgweier Boduan a Catharine ei wraig, merch William Vaughan, Corsygedol, Dyffryn Ardudwy. Priododd Frances, merch John Glynn ac aeres Ystad Glynllifon tua 1700. Trwy uno'r ddau deulu daeth y teulu unedig i reng flaen sgweiriaid y sir o ran eiddo, pwer a dylanwad gwleidyddol. Roedd ganddo frawd, William (1678-1754), a ddaeth yn Syr William, efallai oherwydd iddo fod yn fanergludydd i fintai o bensiynwyr bonheddig. Ar farwolaeth John Glynn, etifeddodd ystad Glynllifon trwy ei wraig, gan uno ystadau Boduan a Glynllifon fel y dywedwyd eisoes (er i'r ddwy ystad gael eu rhedeg r wahân i raddau helaeth am y ddwy ganrif nesaf). Yn y man, symudodd y teulu i fyw i Glynllifon gan osod plasty Boduan neu ei ddefnyddio ar gyfer aelodau iau y teulu.[1]

Roedd gan Thomas Wynn a Frances bump o blant, sef un mab, John, Catharine, Elizabeth, (1705-?), Dorothy (1707-44), gwraig cyntaf William Thomas,Coed Helen, a Frances (1713-84) a farwodd yn ddi-briod.[2]

Roedd yn ddyn o ddylanwad, gan eistedd fel aelod seneddol dros brwdeisdrefi'r sir o 1713 hyd ei farwolaeth ym 1749. Cyn hynny, bu'n Uchef Siryf Sir Gaernarfon ym 1712. Dywedir iddo creu llawer o fwrdeisiaid (dynion â hawliau mewn tref) ym mwrdeisdrefi'r sir lle roedd yn gallu dylanwadu ar y gorforaeth fwrdeistrefol oherwydd iddo fod yn berchen ar eiddo sylweddol yno gyda bwrdeiswyr newydd nad oeddynt yn byw yn y dref ond oedd yn fownd o roi eu pleidlais iddo yn yr etholiad. Rhwng 1707 a 1713, ychwanegodd 689 o fwrdeisiaid newydd i'r 24 a oedd cynt yn Nefyn; ac ym Mhwllheli, cynyddodd y rhif o 36 o 210.[3] Bu'n aelod o lys y tywysog George, mab y Brenin, fel un o wastrodion (equerries) y tywysog, a pharhaodd yn y rôl wedi i hwnnw'n fynd yn frenin ym 1727 (ond am dair blynedd, 1724-7, pan weithredodd fel Cwnstabl Castell Caernarfon a Chlerc Llys y Tywysog).[4] Derbyniodd y swm sylweddol o £300 y flwyddyn fel gwastrodwr ac fe daliodd hefyd swydd Clerc y Lliain Gwyrdd a ddaeth a £1000 y flwyddyn iddo. Roedd felly yn ddyn cefnog o ran tir ac incwm. Roedd yn cefnogi plaid y Whigiaid ac yn pleidio achos y brenin yn ddiysgog, ac am hynny fe dderbyniodd y teitl o Farwnig.[5]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. J E Griffith, Pedigrees of Anglesey & Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), tt. 171-3
  2. J E Griffith, Pedigrees of Anglesey & Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), t. 173
  3. P.G.T. Thomas, The Parliamentary Representation of Caernarvonshire in hte Eighteenth Century, (Trafodion Cym Hanes Sir Gaernarfon, Cyf. 19 (1958)), t. 44
  4. ‘’History of Parliament’’ [1]
  5. Glyn Roberts, The Glynnes and the Wynns of Glynllifon, (Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, cyf.9 (1948)), t.30