Y Seler Ddu

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:09, 10 Ionawr 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Y Seler Ddu. Llun:Eric Jones, cc-by-sa 2.0)

Y Seler Ddu yw enw'r cwm serth sydd yn gorwedd ar lethrau dwyreiniol Mynydd Bwlch Mawr gyferbyn â Hengwm. Tir diffaith a charegog sydd yno gyda phorfa ar gyfer defaid. Yno mae un o flaennentydd Afon Dwyfach yn codi.

Bu gwaith manganîs yno yn y gorffennol, ac er bod yr hanes yn brin, mae sicrwydd i'r gwaith fod ar fynd 1872-6 pan oedd un John Cowper yn gapten ar y gwaith. Ni ddefnyddid unrhyw ffrwydron yn y gwaith, dim ond ceibiau'n unig. Mae'r gloddfa'n nodedig am y ffordd unigryw o gynnal to'r gwaith, sef trwy godi pileri o gerrig sychion.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Cymdeithas Mwyngloddiau Cymru, Gwefan 2004, [1]