Afon Efelog
Mae Afon Efelog yn codi yn Y Seler Ddu ar ochr Mynydd Bwlch Mawr, ac yn rhedeg i'r gogledd o fferm Hengwm i lawr nes ymuno â'r Afon Dwyfach ifanc yn ardal fferm Gyfelog yng nghanol Gors Gyfelog, a thrwy'r gors rhed nant a elwid yn y gorffennol yn Afon Efelog. Mae'r enw'n hen iawn, yn dyddio'n ôl o leiaf i ddiwedd y 12g., pan soniwyd am yr ardal y siartrau Abaty Aberconwy. Soniwyd yno hefyd am Flaen Efelog, sef tarddle Afon Efelog uwchben fferm Hengwm. O'r fan honno hyd Gyfelog, neu Y Felog, ffurfiai'r afon ffin ogleddol trefgordd Cwm. Rhywle ar hyd yr afon sonnid hefyd am Rhyd Efelog, ond nid yw lleoliad hwnnw'n hysbys bellach.[1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Colin Gresham, The Aberconwy Charter, (Archaeologia Cambrensis, Rhagfyr 1939), tt.134-6