Gyfelog

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:54, 7 Ionawr 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Gyfelog yn fferm yn ardal Bwlch Derwin o blwyf Clynnog-fawr, nid nepell o hen Ysgol Ynys-yr-arch. Mae Gyfelog ar ochr orllewinol cosrdir a elwir yn Gors Gyfelog, a thrwy'r gors rhed nant a elwid yn y gorffennol yn Afon Efelog. Mae'r enw'n hen iawn, yn dyddio'n ôl o leiaf at ddiwedd y 12g., pan sonnwyd am yr ardal y siartrau Abaty Aberconwy. Sonnwyd yno hefyd am Flaen Efelog, sef tarddle Afon Efelog yng nghyffiniau fferm Hengwm. O'r fan honno hyd Gyfelog, neu Y Felog, ffurfiau'r afon ffin ogleddol trefgordd Cwm. Rhywle ar hyd yr afon sonnid hefyd am Rhyd Efelog, ond nid yw lleoliad honno'n hysbys bellach.[1]

  1. Colin Gresham, The Aberconwy Charter, (Archaeologia Cambrensis, Rhagfyr 1939), tt.134-6