Pont Ynyspwntan

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:41, 14 Ionawr 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Y bont newydd ger Ynyspwntan

Mae Pont Ynyspwntan yn croesi Afon Dwyfach i'r gorllewin o bentref Pant-glas ar y ffordd i gyfeiriad Bwlch Derwin. Roedd hen bont ar y safle ers blynyddoedd lawer ond aeth yn wan iawn ac fe adeiladwyd pont newydd yn ei lle. Codwyd y bont newydd yn 2005 gan gwmni Rock Engineering Co o Borthmadog. Y gost oedd £133,000.[1]

Caiff y bont ei henw o fferm Ynyspwntan sydd ychydig i'r dwyrain o'r afon.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Ffeil Geographia