Lleucu Roberts

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:42, 15 Tachwedd 2021 gan Cudyll (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Lleucu Roberts oedd y llenor cyntaf i ennill y ddwy brif wobr ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru a hynny yn Eisteddfod Sir Gaerfyrddin, 2014: Gwobr Goffa Daniel Owen a’r Fedal Ryddiaith. Cyflawnodd yr un gamp lenyddol yn Eisteddfod Amgen 2021. Enillodd wobr Tir na nOg ar sawl achlysur. Bu’n olygydd i Wasg y Lolfa am gyfnod cyn mentro yn llenor amser llawn. Mae hi’n ysgrifennu llyfrau i blant, sgriptiau teledu a storïau a nofelau i oedolion.

Daw o Rydypennau yn wreiddiol ble y derbyniodd ei haddysg gynradd cyn mynychu Ysgol Gyfun Penweddig a Phrifysgol Cymru, Aberystwyth. Mae hi a’i gŵr Arwel “Pod” Roberts wedi ymgartrefu yn Rhostryfan ac yn rhieni i bedwar o blant.

Am ei llyfrau, gweler:[[1]][1]

Dyma rai ohonynt: 1-6 Cyfres Yma: Pecyn Trioleg ; Afallon ; Hadau ; Yr Ynys ;

7 Jwg ar Seld;

8 Saith Oes Efa;

9 Wel, Gymru Fach;

10 Stwff Guto S. Tomos;

11 Y Ferch ar y Ffordd;

12 Annwyl Smotyn Bach;

13 Troi Clust Fyddar;

14 Iesu Tirion;

15 Caneuon Heddwch.

Cyfeiriadau

  1. Gwefan Y Lolfa [2]