Amddiffynfa Williamsburg
Safai’r amddiffynfa hon o fewn hen waliau Stad Glynllifon. Fe'i hadeiladwyd gan Syr Thomas Wyn (Glynllifon) yn 1761, a bu gwaith pellach arni o gwmpas 1773-1776. Cymerodd yr Arglwydd Newborough ei gyfrifoldeb fel aelod seneddol o ddifri, a chynhaliodd ei filisia ei hun a’u gosod yn yr amddiffynfa hon ac yn amddiffynfa Belan. Mae’n cynnwys adeiladau sydd â siâp sgwâr gyda bastiynau onglog iddynt, sydd wedi eu hamgylchynu â ffos. Ceir adeiladau domestig a milwrol o fewn yr amddiffynfa, felly gellir awgrymu fod y lle ar un adeg wedi bod yn fwrlwm o brysurdeb gan fod angen cefnogaeth i’r milwyr. Roedd y lle hwn hefyd yn arwyddocaol i’r ‘Society or Garrison’ a’r ‘Holy Order of Sisterhood’.
Ffynonellau
Jones, E. Alfred The Society or Garrison of Fort Williamsburg Y Cymmrodor Cyf. 44. 1935.