Richard Morris Jones
Mae Richard Morris Jones yn hanu o Dal-y-sarn. Er iddo fyw bellach yng Nghaernarfon ers blynyddoedd, roedd yn byw yn Nôl Meredydd, Llandwrog am gyfnod tra'n briod â Manon Rhys, y nofelydd. Ar ôl cyfnod yn ohebydd teledu, aeth yn gynhyrchydd ac yn hyfforddwr i'r rhai a ddymunai gael gyrfa yn y cyfryngau. Bu'n gynghorydd sir dros un o wardiau Caernarfon am nifer helaeth o flynyddoedd.
Mae o'n gyfarwydd yn gyhoeddus i lawer o bobl dan ei lysenw, Moi.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma