Pen-y-gaer

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:55, 12 Medi 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Pen-y-gaer yw enw un o'r pum copa yng ngrŵp bryniau neu fynyddoedd isel Gurn Ddu. Mae hefyd yn enw ar y bryngaer sydd yn amgylchynu holl ben y bryn. Mae'n sefyll ar gyrion mwyaf dwyreiniol plwyf Llanaelhaearn. Ei uchder yw 1270 troedfedd neu 387 metr uwchben lefel y môr. Ar ei lethr ogleddol ceir olion hen waith manganîs.[1]

Mae'r bryngaer yn dyddio'n ôl i Oes yr Haearn. Mae mur trwchus o gerrig, sydd â lled o hyd at 4.5 metr mewn mannau, yn amgylchynu pen y bryn gan amgáu o'i fewn tua dwsin o safleoedd cytiau crwn. Ceir grŵp arall o gytiau cynhanesyddol gerllaw, wrth droed y bryn ger fferm Tyddyn-mawr. Ceir caeau cynhanesyddol ger y cytiau ac er nad oes modd profi eu bod yn gysylltiedig â'r gaer mae'n debyg eu bod.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Map Ordnans
  2. Christopher Houlder, Wales: an archaeological guide (Faber & Faber, 1977), tud. 51.