Cwm Dulyn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:01, 3 Medi 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Cwm Dulyn ym mhlwyf Llanllyfni erbyn hyn, er y bu yr hanner deheuol ym mhlwyf Clynnog Fawr hyd nes i'r ffiniau newid tua 1974. Mae'n cwm eang heb ddechreuad eglur, yn ymagor o Gors y Llyn. Roedd y cwm yn cynnwys Llyn Dulyn, llyn naturiol go fawr hyd nes i addasiadau ei droi'n gronfa ddŵr ar gyfer Dyffryn Nantlle. Mae'n terfynu yng ngwaelod creigiau serth Craig Cwm Dulyn. Afon Cwm Dulyn sydd yn llednant Afon Crychddwr yn rhedeg trwy'r cwm. Ym mlaen y cwm mae Bwlch Cwm Dulyn a ddefnyddid fel bwlch rhwng Llanllyfni a Chwm Pennant ar un adeg.

Does neb o fewn cof wedi byw yng Nghwm Dulyn, er bod nifer o gorlannau'n tystio i'r ffaith fod dyn wedi defnyddio'r ardal yn helaeth dros y blynyddoedd fel tir comin.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau