Y Brodyr Francis

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:21, 16 Tachwedd 2017 gan Robin Owain (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Chwarelwyr a ddaeth yn gantorion poblogaidd oedd Griffith ac Owen Francis (Y Brodyr Francis).

Ganwyd y ddau yng Nghwm Pennant, yn blant i William a Mary Francis. Roedd y ddau frawd yn ennill eu bywoliaeth trwy weithio yn y chwarel. Roedd Griffith (1876-1939) yn barddoni, a chyhoeddodd Telyn Eryri, sef cyfres o ganeuon am fywyd caled chwarelwyr a thyddynwyr eu hardal. Bu Owen (1879-1939) yn ysgrifennu caneuon, a chyhoeddwyd llawer o waith y ddau frawd ym mhapur newydd Y Genedl Gymreig. Roedd y ddau yn perfformio mewn nifer o gyngherddau Cymreig yn ystod eu gyrfaoedd, yn aml iawn gyda’u gilydd. Bu'r ddau farw yn 1939; Owen ar 6ed Ebrill 1939, a Griffith ar 13 Mehefin 1939.

Cyfeiriadau