Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 09:23, 1 Gorffennaf 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Adeiladwyd Eglwys Beuno Beuno, Clynnog Fawr rhwng 1480 a 1486, ac adeiladwyd adrannau eraill ohono rhyw ugain mlynedd yn ddiweddarach. Mae rhannau eraill o’r Eglwys yn dyddio o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac hefyd i hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif.

Mae gan yr Eglwys hefyd groglen sy’n dyddio o 1531, a pulpud sy’n dyddio o gwmpas 1700. Mae seddau côr hefyd yno sy’n dyddio o’r bymthegfed ganrif. Mae'n debyg fod y sgrîn neu groglen a rhannau eraill o ffitiadau coed wedi eu gwneud gan yr un seiri arbennig o grefftus a weithiodd ar Eglwys Gadeiriol Bangor dan yr Esgob Skeffington yn yr un cyfnod. Roedd y rheiny'n rhai arbennig a ddaeth o Loegr, gan fod yr arddull yn Seisnig yn hytrach na chynhenid.

Credir i’r Eglwys ei sefydlu gan Beuno Sant o gwmpas 630, ac iddo fod wedi sefydlu eglwys a man dysgu Celtaidd ar fan y lle mae’r Eglwys yn sefyll heddiw. Mae’r Eglwys hefyd yn un o’r prif fannau ar hyd llwybr y pererinion i Enlli.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Ffynonellau

Cofnod o’r lle hwn ar wefan Treftadaeth Eryri.

Cofnod o’r lle hwn ar wefan y Comisiwn Brenhinol