Cyngor Bwrdeistref Arfon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 23:47, 6 Tachwedd 2017 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Cyngor Bwrdeisdref Arfon oedd yr awdurdod lleol o dan lefel y Cyngor Sir (Cyngor Sir Gwynedd), rhwng 1974 a 1996. Ymestynnai o blwyf Abergwyngregyn yn y Dwyrain hyd ffiniau gorllewinol/deheuol Llanllyfni, gan gynnwys Bangor a Chaernarfon. Roedd dwy ran o dair o Uwchgwyrfai o fewn ei ffiniau: plwyfi Llandwrog, Llanllyfni a Llanwnda. (Roedd dau blwyf arall Uwchgwyrfai, Clynnog-fawr a Llanaelhaearn) yn ran o ardal Cyngor Dosbarth Dwyfor.

Prif swyddogaethau Cyngor Arfon oedd tai, casglu ysbwriel a rhai materion iechyd cyhoeddus, cynllunio trefol, a hamdden.

Ers 1996 mae'r swyddogaethau hyn wedi eu gweinyddu gan awdurdod unedig sir Gwynedd, sef Cyngor Gwynedd. Serch hyn, mae Cyngor Gwynedd wedi cadw Arfon fel un o dri rhanbarth y sir at rai dibenion ym meysydd gweinyddu, cynllunio ac ati. Gwelir arwyddion ffin Arfon ger waelod yr Allt Goch ar yr A499 nid nepell o'r Swan ac ar yr A487 ger y drofa am Chwarel Graeanfryn.