Angharad Tomos
Mae Angharad Tomos (ganed 1958) yn ymgyrchydd iaith, nofelydd, awdures plant ac arlunydd llyfrau. Mae hi'n hanu o waelodion plwyf Llanwnda er iddi fyw ym mhentref Pen-y-groes bellach, lle mae hi'n weithgar iawn gyda phrosiectau cymunedol. Hi a'i gŵr fu'n bennaf gyfrifol am achub Siop Griffiths yn y pentref a'i throi'n ganolfan ar gyfer amryw o weithgareddau ac yn gaffi cymunedol, "Yr Orsaf".
Mae hi'n wyres i'r darlithydd, Sosialydd ac awdur David Thomas. Am gyfnod yn y 1970au, hi oedd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith a chafodd ei charcharu sawl gwaith, gan dynnu ar y profiadau hynny ar gyfer rhai o'i nofelau. Ymysg darllenwyr iau, mae hi'n enwog fel awdures a darlunydd Cyfres Rwdlan.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma