John Preis
Crwydryn enwog o Gapel Ucha, Clynnog Fawr oedd John Preis.
Fe'i ganwyd ym 1894, ac fe'i magwyd, yn Nhyddyn y Garreg, Capel Ucha Clynnog yn bedwerydd o bedwar plentyn Richard Price (1845-1924) ac Elizabeth Price (1856-1818). Hanai'i dad o deulu Tyddyn Madyn, a'i fam o deulu Hafod-y-rhiw uwchlaw Brysgyni. Dyma enwau'r plant :
Annie : ganwyd 1884 a bu'n athrawes ysgol ac yn byw yng Nghlwt-y-bont ger Deiniolen. Bu farw yn y 1960'au.
Jane : ganwyd 1886 ond bu farw'n bymtheg oed ar 8 Chwefror 1901.
Richard : ganwyd 1889. Ymfudodd i dalaith British Columbia yng Nghanada. Bu farw'n lled ieuanc yn Vancouver.
John : ganwyd 1894. Aeth yn grwydryn tua 1924 ar ôl claddu'i dad.
Treuliodd y tair blynedd ar ddeg olaf o'i oes yng Nghartref Bron-y-garth, Penrhyndeudraeth.
Bu farw, yn 91 oed, ar 15 Hydref 1985 ac fe'i claddwyd ym meddrod y teulu ym mynwent Capel Ucha Clynnog.[1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Geraint Jones : John Preis 2014 Gwasg Utgorn Cymru, Clynnog Fawr