David Price (Dewi Dinorwig)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:48, 1 Gorffennaf 2019 gan Hebog (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Brodor o blwyf Llanddeiniolen yn Arfon oedd Dewi Dinorwig. Ei enw bedydd oedd David Price a blynyddoedd ei oes oedd 1804 hyd 1874. Yn y cylchoedd barddonol y'i hadnabyddid fel Dewi Dinorwig, ond yng nghylchoedd yr Annibynwyr, Mr. Price, Dinbych ydoedd. Daeth yn fardd ac yn bregethwr tra chymeradwy yng Nghymru ac yn America.

Yn Hydref 1829 fe'i urddwyd a'i sefydlu'n weinidog ar eglwys Bethlehem yr Annibynwyr yn Nhrefor (Hendre oedd enw'r ardal bryd hynny). Yn rhan o'r ofalaeth roedd eglwysi Annibynnol Capel Helyg (Llangybi) a Sardis (Pencaenewydd). Nid arhosodd ond ychydig dros flwyddyn yn weinidog yr ofalaeth a gadawodd y fro ddiwedd 1830 am Ben-y-bont Fawr ym Maldwyn. Dyma pryd y cynyddodd ei boblogrwydd a'i enwogrwydd fel pregethwr a bardd.

Ddeuddeng mlynedd yn ddiweddarach symudodd i dref Dinbych, ond ym 1857 derbyniodd alwad i fod yn weinidog yn America - yn Utica, Ohio ac Iowa. Bu farw ym 1874 ac fe'i claddwyd gyda'i wraig, Pamela, ym mynwent Forest Home, Milwaukee, Wisconsin. Bwriadodd gael ei englyn enwocaf ei hun ar ei garreg fedd, ond nis torrwyd arni. Yr englyn hwnnw yw'r olaf o'r englynion hyn : [1]

NEWID BYD

'Rwyf yn sâl a digalon - o achos

Afiechyd fy nwyfron.

Troes yn sur fy nghysuron

O ddŵr hallt y ddaear hon.


Yn ddi-nag, byth yn rhagor - ni welaf

Hen Walia, iach oror ;

Nid doeth i mi deithio môr,

Na, llechaf o'r naill ochor.


Mae fy nhaith a'm gwaith i gyd - yn dawel,

A diwedd fy mywyd

Bron ar ben, dyma'r ennyd

Af innau o boenau'r byd.


Digonwyd fi ar deganau y byd

Aed ei barch ac yntau

I rhyw ddyn a gâr y ddau -

Mynwent a nef i minnau.


Dywedodd D.Emrys Evans hyn am yr englyn olaf [2] : Cyfansoddodd Dewi Dinorwig englyn a haeddai le yn unrhyw ddetholiad. Rhed anesmwythyd blin clefyd y taedium vitae drwy ei linellau diamynedd, ac yna daw'r cyfuniad disglair yn nymuniad y llinell olaf, fel fflach a deifl ei olau'n ôl dros yr holl bennill.


Mae ganddo emyn angladdol fu'n hynod o boblogaidd oes a fu. Fe'i gwelir yng Nghaniedydd yr Annibynwyr (Rhif 629). Dyma'r emyn :


Nac wyled teulu Duw

Ar ôl y saint ;

Maent gyda'r Iesu'n fyw -

Mawr yw eu braint :

'Does yno neb yn glaf,

Mae yno'n haf o hyd

Yng nghwmni'r addfwyn Oen,

O boen y byd.


Tu draw i'r afon ddu

Mae tŷ fy Nhad :

'N ôl croesi at y lan,

Mae'r Ganaan wlad ;

Er garwed ydyw'r glyn,

Mae yn y dyffryn du

Oleuni disglair mawr

Yn awr i ni.


Ym 1997 bu Seindorf Trefor ar daith yn Wisconsin yn America a chynhaliwyd oedfa goffa fer gan yr aelodau (30 ohonynt) a'u cefnogwyr (32) ar lan bedd Dewi Dinorwig ym Milwaukee. Arweiniwyd y gwasanaeth gan y Parchedig Ganon Idris Thomas (brodor o Ddinorwig), rheithor Eglwys San Siôr, Trefor, a chyfeilwyd gan ran o'r Seindorf dan arweiniad Geraint Jones. Canwyd yr emyn uchod ar drefniant yr arweinydd o dôn John Roberts (Ieuan Gwyllt), Liverpool, yn deimladwy iawn a gosodwyd dwy garreg fechan a gludwyd o fur Capel Bethlehem, Trefor, lle bu Dewi'n weinidog, ar y bedd. Caewyd Bethlehem ym 1982, ac er 1988 mae'r adeilad yn eiddo i Seindorf Trefor lle mae'n dal i ymarfer.

  1. Alan Llwyd gol. Y Flodeugerdd Englynion 1978
  2. D.Emrys Evans : Yr Epigram a'r Englyn