William Evans (Eos Eifion)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:47, 27 Mehefin 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Cerddor a bardd amlwg oedd William Evans (Eos Eifion) (1843-1903), oedd yn arwain Seindorf Dulyn (Seindorf Nebo), ac am gyfnod Seindorf Llyfnwy (Llanllyfni). I'w gydnabod, adnabyddid ef fel Wil Ifan y Wig. Dywedid ei fod yn chwarelwr, canwr a cherddor medrus.

Yn ôl y bardd a'r casglwr hynod o Langybi yn Eifionydd roedd yr Eos hefyd yn fardd lled hysbys. Pan fu farw'r gantores boblogaidd honno, Mair Alaw, mam y dihafal Frodyr Francis o Ddyffryn Nantlle, ym 1881, cyfansoddodd Eos Eifion ddau englyn er cof amdani :

Lle gwelir drylliog wylaw - yw Arfon;

Ni dderfydd y cwynaw;

Adwyth i'n bron, daeth ein braw

Ym marwolaeth Mair Alaw.


Cur a ddyry, cerddoriaeth - bob un fu'n

Bennaf oll drwy'r dalaeth!

Cadd ergyd drom, siom a saeth,

Mair Alaw mewn marwolaeth.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Geraint Jones, Cyrn y Diafol, (2004) tt.81, 183