Pont Sarn Wyth-dŵr

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:47, 14 Ionawr 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Safai Pont Sarn Wyth-dŵr ger Chwarel Tal-y-sarn, plwyf Llandwrog, ar y ffordd heibio Petris a Phlas Dorothea ar y ffordd a arferai redeg o'r hen ffordd trwy'r dyffryn (ger Plas Tal-y-sarn) am Dan'rallt. Roedd yn croesi ar draws Afon Llyfnwy, a oedd yn ffin rhwng plwyfi Llandwrog a Llanllyfni. Fe'i hail-adeiladwyd ym 1837-8 i gynllun gan John Lloyd, syrfewr y sir, gan Lewis Williams, saer maen, ar gost o £163. Roedd iddi un prif fwa a saith o sianeli neu gwlfertau llai.[1]

Fe'i hail-adeiladwyd drachefn ym 1855, mewn ymateb efallai i lythyr a anfonwyd ym mis Mehefin 1855 gan Owen Jones, un o swyddogion y sir, at yr Arglwydd Newborough, Cadeirydd y Llys Chwarter, gan ddweud fod yna fawr o ffyrdd a gynhelid gan y plwyfi nad oedd â phont neu gwlfert dros bob un nant, ond bod angen 5 pont sylweddol rhwng Pen-y-groes a Rhyd-ddu.[2]

Roedd un prif fwa a saith sianel lai gan y bont hon. Defnyddiodd yr ymgymerwr wastraff o’r chwareli lleol i codi a chryfhau’r sarn. John Prichard, Brynhyfryd, plwyf Llanbeblig, oedd yr ymgymerwr ym 1855 ac fe gytunodd i wneud y gwaith a gwneud gwaith cynnal a chadw arni am saith mlynedd am y gost o £70.[3]

Fe elwir y bont weithiau ar fapiau'n Bont Wythdir.[4]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Gwynedd, XPlansB/98
  2. Archifdy Gwynedd, XD2/24838.
  3. Archifdy Caernarfon, XPlansB/20
  4. Mapiau Ordnans 6" i'r filltir (gol. 1af, 1888).