Geraint Lloyd Owen

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:44, 12 Mai 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Geraint Lloyd Owen (ganwyd 1941) yn brifardd, ac wedi gwasanaethu fel Archdderwydd Cymru (2016-19). Mabwysiadodd yr enw barddol "Geraint Llifon". Brodor o'r Sarnau, Sir Feirionnydd ydyw, ac yn frawd i'r prifardd Gerallt Lloyd Owen. Enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam a'r Fro 2011. Bu'n athro a phrifathro (yn Y Ffôr ac wedyn yng Nghricieth) cyn troi ei law at gadw siop lyfrau (Siop y Pentan) yng Nghaernarfon cyn ei ymddeoliad.

Mae o'n un o gyfarwyddwyr Gwasg y Bwthyn, ac yn flaenor gyda'r Methodistiaid yng Nghapel Glan-rhyd, Llanwnda.[1]

Mae'n byw gyda'i deulu yn Ffrwd Cae Du ers blynyddoedd lawer.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Wicipedia [1], cyrchwyd 10.6.2019