Pont Glan-rhyd
Mae Pont Glan-rhyd yn croesi Afon Rhyd tua chanllath i'r Gogledd o gyffordd ffordd Ffingar ym mhlwyf Llanwnda - wrth gapel Glan-rhyd. Mae'r gefnffordd A487 o Gaernarfon i Borthmadog yn rhedeg drosti. Dichon ei fod yn hanu o gyfnod creu'r ffordd dyrpeg rywbryd ar ôl pasio Deddf Ymddiriedolaeth Dyrpeg Sir Gaernarfon (8&9 George III 1768-9), ond cyn 1810 gan fod sôn am ledu ffyrdd o Bont Glan-rhyd trwy Lanllyfni a Garn Dolbenmaen hyd y Traeth Mawr mewn deddf arall a basiwyd y flwyddyn honno.[1] Cyn codi'r bont cafwyd rhyd yma a elwid yn Rhyd y Dimpan, sy'n cael ei dangos ar rai mapiau cynnar o'r ardal.[2]
Fe adleolwyd y bont, gan ddargyfeirio'r afon ychydig lathenni'n nes at Gaernarfon, ym 1840, gan godi bwa newydd i ddyluniad John Lloyd, syrfewr y sir, gan Lewis Williams, Caernarfon, saer maen. Y gost am ei chodi, ail-wneud y ffordd fawr a'i chynnal am 7 mlynedd oedd £230.[3]