Geraint Jones, Trefor
Mae Geraint Jones (g1942) o bentref Trefor wedi bod yn ymgyrchydd iaith gydol ei oes, yn athro ac yn brifathro Ysgol yr Eifl, Trefor o 1983-1997, yn gerddor gyda'r gorau ym myd y bandiau pres, yn arweinydd Seindorf Trefor am dros hanner canrif ( o 1969) ac y mae'n dal wrthi! Mae'n yn awdur nifer o nofelau a llyfrau hanes. Yn wreiddiol o Drefor, aeth i Goleg y Brifysgol, Aberystwyth a graddiodd yn y Gyfraith (LlB : 1963).
Fo oedd y cyntaf i fynd i'r carchar fel rhan o'r ymgyrch dros yr iaith Gymraeg. Roedd yn un o sefydlwyr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ac yn ymwneud â gwleidyddiaeth lleol yn ardal Trefor.
Am ddwy flynedd, hyd y'i rhwystrwyd gan yr awdurdodau, bu'n ysgrifennu colofn wythnosol dadleuol "Sêt y Gornel" yn y Cymro (2005-06).
Sefydlydd a chadeirydd Cymdeithas Pysgotwyr Trefor.
Fo yw Prif Weithredwr Canolfan Hanes Uwchgwyrfai ac un o'i sylfaenwyr. Fo hefyd sy'n bennaf gyfrifol am Yr Utgorn, chwarterolyn llafar y Ganolfan.
Fo sy'n llunio Cwis poblogaidd y Faner Newydd.
Llyfryddiaeth
- Rhen Sgŵl (Gwasg Bro'r Eifl, 1978)
- Cywrain Wŷr y Cyrn Arian (Pwyllgor Seindorf Trefor/Cymdeithas Hanes Trefor, 1988)
- Dianc i Drybini (Gwasg Bror Eifl, 1991)
- Carchar nid Cartref (Clwb y Bont Pwllheli, 1992)
- Hen Gerddorion Eifionydd (Cyngor Sir Gwynedd, 1993)
- Cyrn y Diafol:Golwg ar Hanes Cynnar Bandiau Pres Chwarelwyr Gwynedd (Gwasg Gwynedd, 2004)
- Band yr Hendra, Wmpa–Wmpa! (Gwasg Carreg Gwalch, 2004)
- Trefor cyd awdur gyda Dafydd Williams (Canolfan Hanes Uwchgwyrfai, Clynnog Fawr 2006)
- Epil Gwiberod yr Iwnion Jac (Gwasg y Bwythyn, 2009)
- Gŵr Hynod Uwchlaw'rffynnon (Gwasg Carreg Gwalch, 2008)
- Malcolm Allen, y Cofiant (Y Lolfa, 2009)
- Moto Ni, Moto Coch - Canmlwyddiant Cwmni Bysus Clynnog a Threfor (Gwasg Carreg Gwalch, 2012)
- John Preis (Gwasg Utgorn Cymru, 2014)
- Gwlad y Menig Gwynion (Gwasg Carreg Gwalch, 1996)
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma