Frederick George Wynn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:52, 31 Mai 2019 gan Gwylan (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Yr Anrh. Frederick George Wynn (1853-1932) oedd y mab ieuengaf o bedwar mab Spencer Bulkeley Wynn, 3ydd Arglwydd Newborough a'i wraig Fanny (Frances Maria Wilkins).[1] Fo etifeddodd ystadau Glynllifon a Boduan oddi wrth ei dad ar farwolaeth hwnnw ym 1881. Ni briododd, ond dewisodd fyw bywyd hen lanc yn y Plas, lle cynhelid llawer o bartïon saethu a hela. Roedd hefyd yn parhau â thraddodiad y teulu o hwylio yn ei gwch ei hun a gedwid yng Nghaer Belan.

Dilynodd yn nhraed ei dad a'i daid trwy ymddiddori mewn adeiladu a gwella'r ystâd, gan adeiladu adain newydd i'r Plas ar gyfer ei bartïon o ymwelwyr, ystafell biliards a hyd yn oed theatr. Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf aeth yr ystâd i ddyled, oherwydd costau cynnal y plas a chwch stêm F.G. Wynn, a gadawodd yr ystâd mewn dyled sylweddol ar ei farwolaeth.[2]

Gwasanaethodd fel Dirprwy Arglwydd Raglaw'r Sir, ac (ym 1894), fel Uchel Siryf Sir Gaernarfon.[3]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families, (Horncastle, 1914), t.173.
  2. Michael Stammers, A Maritime Fortress, (Caerdydd, 2001), t.8
  3. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families, (Horncastle, 1914), t.173.