Edmund Price

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:07, 30 Mai 2019 gan Gwylan (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Edmund Price (neu weithiau, Edmwnd Prys)[1] yn ficer Clynnog Fawr, (?1662-1719). Fe'i benodwyd i'r fywoliaeth 10 Mai 1692 neu 1693, gan aros yno weddill ei oes.[2] Mab ydoedd i Edward Price, ac mae'n bosibl mai ficer Llanrhyddlad ac wedyn Llanfaethlu oedd hwnnw; os felly, dichon i Edmund gael ei ddwyn i fyny ar Ynys Môn. Fodd bynnag, dadleuai Joseph Foster (yn ei Index Ecclesiasticus) mai mab ydoedd i Edward Price, Llanbedr, Meirionydd, ac iddo ymaelodi (fel ‘pauper’) ym Mhrifysgol Rhydychen (o Goleg Iesu) 7 Ebrill 1682, yn 20 oed, graddio'n B.A. yn 1685, a chymryd yr M.A. (o S. Alban Hall) yn 1688.[3] Gwraig Edmund oedd Ann Savage (bu farw 19 Mawrth 1720). Roeddent wedi priodi rywbryd ychydig cyn 1695, ac yr oedd ganddynt 5 o ferched a 2 fab, yn cynnwys y Parch. Edward Price, rheithor Llanfairpwll, Sir Fôn. Bu farw Price 10 Chwefror 1719. Roedd yn or-ŵyr i'r Archddiacon Edmwnd Prys, y bardd a'r prydydd, o Dyddyn Du, Maentwrog, a'i ail wraig Gwen.[4]).

Yn ei ewyllys gadawodd gymynroddion ariannol i'w plant, a swllt yr un i'r deuddeg person mwyaf tlawd ym mhlwyf Clynnog.[5]

Canwyd marwnad iddo gan Siôn Prichard Prys (marw 1724) ar ffurf ymgom rhwng y bardd a'r eglwys yn ei phrofedigaeth.[6] Fe'i atgynhyrchir isod, wedi ei gopïo o'r gwreiddiol gan y Parch, Ddr, Dafydd Wyn Wiliam, Bodedern.[7]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. "Edmund Price" oedd ei ddull ei hun o lofnodi ei enw ar ei ewyllys)
  2. Arthur Ivor Pryce, The Diocese of Bangor During Three Centuries, (Caerdydd, 1929), t.13
  3. Y Bywgrafafiadur Ar-lein,erthygl am yr Archddiacon Edmwnd Prys, [=en&lang[]=cy&lang[]=en&sort=sort_name&order=asc&rows=12&page=12#?c=0&m=0&s=0&cv=0&manifest=https%3A%2F%2Fdamsssl.llgc.org.uk%2Fiiif%2F2.0%2F4670462%2Fmanifest.json&xywh=-679%2C0%2C2421%2C1954]
  4. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families, (Horncastle, 1914), t.361.
  5. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ewyllysiau, B/1718/36.
  6. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, llsg Peniarth 196, t.20
  7. Dafydd Wyn Wiliam, Traethawd Ph.D, (Bangor, 1983), Traddodiad Barddol Môn yn y XVII ganrif. Mae Cof y Cwmwd yn ddiolchgar i'r Dr Wiliam am hwyluso'r erthygl hon.