Edmund Price
Roedd Edmwnd Prys yn ficer Clynnog Fawr. Fe'i benodwyd i'r fywoliaeth 10 Mai 1692 neu 1693, gan aros yno weddill ei oes.[1] Mab ydoedd i Edward Price, ac mae'n bosibl mai ficer Llanrhyddlad ac wedyn Llanfaethlu oedd hwnnw; os felly, dichon i Edmund gael ei ddwyn i fyny ar Ynys Môn. Ei wraig oedd Ann Savage (bu farw 19 Mawrth 1720). Roeddent wedi priodi rywbryd ychydig cyn 1795, ac yr oedd ganddynt 5 o ferched a 2 fab, yn cynnwys y Parch. Edward Price, rheithor Llanfairpwll, Sir Fôn. Bu farw Price 10 Chwefror 1718/19. Roedd yn or-ŵyr i'r Archddiacon Edmwnd Prys, y bardd a'r prydydd, o Dyddyn Du, Maentwrog, a'i ail wraig Gwen.[2]).
Canwyd marwnad iddo gan Siôn Prichard Prys (marw 1724) ar ffurf ymgom rhwng y bardd a'r eglwys yn ei phrofedigaeth.[3] Fe'i atgynhyrchir isod, wedi ei gopïo o'r gwreiddiol gan y Parch, Ddr, Dafydd Wyn Wiliam, Bodedern.[4]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Arthur Ivor Pryce, The Diocese of Bangor During Three Centuries, (Caerdydd, 1929), t.13
- ↑ J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families, (Horncastle, 1914), t.361.
- ↑ Llyfrgell Genedlaethol Cymru, llsg Peniarth 196, t.20
- ↑ Dafydd Wyn Wiliam, Traethawd Ph.D, (Bangor, 1983), Traddodiad Barddol Môn yn y XVII ganrif. Mae Cof y Cwmwd yn ddiolchgar i'r Dr Wiliam am hwyluso'r erthygl hon.