Chwarel Cefn Graeanog

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:34, 20 Mai 2019 gan Gwylan (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Chwarel Cefn Graeanog yn chwarel cerrig bach a gro a sefydlwyd i godi agregau ar gyfer y gwaith o godi gwaith trydan pympio dŵr yn Ninorwig ddiwedd y 1970au. Aethpwyd ati i godi'r agregau o gefnen o dir i'r gorllewin o briffordd yr A487, nid nepell o bentref Pant-glas. Yn ogystal â'r ffaith fod yr agregau'n hawdd i'w codi yno, trwy gymryd haen trwchus o'r gwaddodion o Oes yr Iâ sydd ar y safle, roedd hen drac rheilffordd gerllaw y gellid ei thario i ffurfio lôn breifat ar gyfer y miloedd o deithiau lori - hyd heddiw, gelwir y lôn honno'n "Lôn Loris" gan bobl leol er i'r lôn droi'n llwybr cerdded a seiclo ers blynyddoedd, sef Lôn Eifion. Gorfennodd lorïau ei defnyddio wedi i waith Dinorwig gael ei gwblhau.

Y dull o weithio'r chwarel oedd cymryd wyneb y tir i ffwrdd, cloddio am yr agregau,ac wedyn ailosod y pridd a dychwelyd y tir i ddefnydd amaethyddol i raddau helaeth.

Golygodd gwaith y chwarel ddinistrio nifer o olion archaeolegol ond bu Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd wrthi'n cloddio a chofnodi'r hyn oedd i'w cael cyn ei ddinistrio. Mae arteffactau a safleoedd eraill wedi dod i'r amlwg wrth i'r gwaith ledu. Ym 12016, daethpwyd o hyd i fynwent o'r Oes Efydd, yn cynnwys crochenwaith tua 4,000 oed.[1]

Erbyn hyn mae'r chwarel yn rhan o Grŵp Tudor Griffiths.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Daily Post, 31.12.2016