Plas Llanwnda
Saif Plas Llanwnda ar y lôn rhwng Dinas, Llanwnda a Felinwnda. Fferm ydyw erbyn hyn, ac fel arfer fe gyfeirir ato fel "Plas", ond bu'n un o blastai pwysicaf yn y plwyf yn y 17-18g. Yn wreiddiol yn perthyn i deulu Wynn, Pengwern, fe briododd yr aeres olaf Ann Wynn â'r Cadben Richard Garnons, Pant Du, tad y Richard Garnons oedd yn ymhel â'r diwydiant llechi a ddaeth yn berchennog wedyn.[1]
Ni ddylid cymysgu y Plas Llanwnda hwn efo Plas Llanwnda, Stryd y Castell, Caernarfon (a oedd yn rhan o adran Addysg y Cyngor Sir) hyd yn ddiweddar).
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ J.E. Griffiths, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families, (Horncastle, 1914), t.240