Spencer Bulkeley Wynn, 3ydd Arglwydd Newborough

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:03, 10 Mai 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Etifeddodd Spencer Bulkeley Wynn deitl Arglwydd Newborough yn annisgwyl oddi wrth ei frawd Thomas John ar farwolaeth hwnnw o'r diciáu ym 1832. Cyn hynny, y disgwyliad oedd y byddai'n chwarae rôl fel rheolwr Ystad Glynllifon tra byddai ei frawd yn ymwneud â'r disgwyliadau cyhoeddus a ddeuai i ran aristocrat yn y 19g. Ar ôl ymafael yn y gwaith hwnnw cyn i'w frawd farw, fodd bynnag, mi gadwodd Spencer Bulkeley ati pan ddaeth i'w etifeddiaeth lawn, gan gadw ei fys ar faterion yr ystad. Er enghraifft, ffeiliodd o bob anfoneb a bil a ddeuai i'r ystad a'r tŷ am dros hanner canrif.

Ail fab Syr Thomas Wynn, Arglwydd 1af Newborough ac ail wraig hwnnw, Maria Stella Petronella Chiappini oedd Spencer Bulkeley, a chafodd ei enwau oddi wrth berthynas trwy briodas ei dad â Spencer Perceval, Prif Weinidog Prydain, 1809-1812[1]

  1. Wicipedia, [1]