Thomas Parry

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:00, 21 Mai 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ysgolhaig ac arbenigwr ar lenyddiaeth Gymraeg oedd Syr Thomas Parry (1904-1985), a hanodd o'r Gwyndy, Carmel. Brawd i'r llenor ac ysgolfeistr, Gruffudd Parry ydoedd. Thomas oedd yr hynaf o dri brawd a anwyd i Richard Edwin Parry, chwarelwr a thyddynnwr, a'i wraig Jane (née Williams) ym Mrynawel, Carmel. Priododd tad Richard Parry deirgwaith: mab iddo o'i briodas gyntaf oedd tad Robert Williams Parry ; mab arall iddo, o'i ail briodas, oedd tad T. H. Parry-Williams. Mynychodd Ysgol y Babanod, Carmel, Ysgol Penfforddelen, Y Groeslon ac Ysgol Sir Pen-y-groes. Yn 1922 enillodd Ysgoloriaeth Fynediad i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru.

Yn ystod ei gyfnod yn y coleg ac wedyn, bu'n barddoni, yn ogystal â chyhoeddi llawer ar Dafydd ap Gwilym a sefydlu'r canon swyddogol o'i waith. Er iddo droi'n fwyfwy at weinyddu ar ôl ei yrfa academaidd pur hyd y 1950au, parhaodd i olygu ac ysgrifennu. Ffrwyth ei lafur o oedd y Oxford Book of Welsh Verse.

Llanwodd swyddi pwysig yn ystod ei yrfa, a ddechreuodd gyda swydd yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, lle y darlithiodd yr yr Adrannau Clasuron a'r Gymraeg. Bu wedyn yn Athro'r Gymraeg yng Ngholeg Bangor, yn Lyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol (1953-58), ac wedyn yn Brifathro Coleg y Brifysgol, Aberystwyth (1958-69). Bu hefyd yn Gadeirydd Gymdeithas Anrhydeddus y Cymmrodorion. Fel cenedlaetholwr cadarn o'i genhedlaeth, wedi iddo ymddeol fe ddefnyddiodd ei enw o fod yn un a ddaliai swyddi pwysig mewn meysydd cyhoeddus ymysg rhai nad oeddynt yn gefnogol i bethau Cymraeg i hyrwyddo pethau cenedlaethol. Roedd o'n un o'r "tri gŵr doeth" a bwysodd ar Llywodraeth San Steffan i newid ei meddwl a chaniatáu sianel Gymraeg.

Disgrifir ef gan Derec Llwyd Morgan fel "piwritan o Arfon" ac yn sicr roedd o'n ddyn o egwyddorion cadarn a barn gref am bethau. Bu'n wrthwynebydd cydwybodol yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Dywedir iddo wrthod cael ei urddo'n syr yn y lle cyntaf, ond wedi gweld Syr Idris Foster (Athro'r Gymraeg yn Rhydychen) yn derbyn yr 'anrhydedd', cytunodd yntau i dderbyn y teitl, a dichon iddo ddefnyddio'r statws hwnnw ymysg rhai sy'n coleddu'r fath bethau i hyrwyddo Cymreictod.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Gweler erthygl Derec Llwyd Morgan yn Y Bywgraffiadur ar-lein lle ceir manylion llawn am ei yrfa a'i gyhoeddiadau:[1]