Arglwyddi Newborough

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:26, 30 Ebrill 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Arglwyddi Newborough yn dal eu teitl yn Uchelwriaeth Iwerddon, ac mae'r enw Newborough yn cyfeirio at Newborough yn Swydd Llwch Garmon (Wexford), tref sydd bellach yn cael ei hadnabod fel Guaire neu "Gorey". Am y rheswm hwn, anghywir yw cyfeirio at deulu Arglwyddi Newborough fel Arglwyddi Niwbwrch. Mae'n debyg mai oherwydd i Thomas Wynn, y Barwn cyntaf, fod yn berchen ar ychydig o leiniau o dir ym mhlwyf Niwbwrch, Ynys Môn, y dewisodd yr enw, trwy weld hwylustod y cyd-ddigwyddiad o ran enw'r ddau le. Fel uchelwyr Gwyddelig, nid oedd ac nid oes gan y pen-teulu a deiliad y teitl unrhyw hawl i eistedd yn Nhŷ'r Arglwyddi er mai modd iddynt sefyll fel ymgeiswyr ar gyfer Tŷ Cyffredin San Steffan.

Crëwyd y teitl ym 1776 i gydnabod gwasanaeth gwleidyddol Syr Thomas Wynn, Barwnig, o Glynllifon a Boduan, i Frenin Lloegr, Siôr III.

Arglwyddi Newborough (o 1776 ymlaen)

Etifedd y teitl yw cefnder yr 8fed Barwn, sef Anthony Charles Vaughan Wynn (ganwyd1949).

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau