Pont Lloc

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:46, 5 Ebrill 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Pentrefan, neu efallai rhan o bentref Nebo, yw Pont Lloc. Mae'n sefyll ar y lôn isaf, neu fwyaf gogleddol, o'r ddwy ffordd sydd yn rhedeg o bentref Nebo yn ôl i'r ffordd fawr, ar lethrau deuheuol Dyffryn Nantlle. Daw'r enw o'r bont gerllaw, sef Pont y Lloc, sy'n croesi Afon Crychddwr. Ystyr lloc yw ffald, corlan neu fan lle gellir amgáu anifeiliaid - ac mae Geiriadur y Brifysgol hefyd yn nodi y gall olygu dam ar afon.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma