Afon Crychddwr

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:22, 13 Ebrill 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Afon Crychddwr ym mhlwyf Llanllyfni yn enw ar yr afon o'r pwynt lle ymuna Afon Ddu ac Afon Cwm Dulyn dan Pont y Lloc yn Nebo ac yn llifo o'r pwynt yna i lawr ac ar ôl llifo dan Pont y Crychddwr ar yr hen briffodd (nid nepell i fynwent Llanllyfni, yn ymuno ag Afon Llyfnwy ger fferm Dol-gau. Rhwng pontydd Lloc a Chrychddwr saif adeilad o'r enw Pandy Hen sy'n tystio i'r ffaith fod yr afon arfer troi olwyn melin bannu.[1]

Mae rhai parchus yn esbonio'r enw fel dŵr wedi'i grychu, sef heb lifo'n llyfn. Er hynny, dichon mai ymharchusiad o'r gair Cachddwr sydd yma, i ddisgrifio lliw'r dŵr.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Mapiau Ordnans 6" i'r fodfedd, [1]