Ysgol Dyffryn Nantlle

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:15, 14 Chwefror 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ysgol uwchradd ar gyfer disgyblion 11-19 oed wedi ei lleoli ym Mhen-y-groes yw Ysgol Dyffryn Nantlle. Arwyddair yr ysgol yw Delfryd, Dysg, Cymeriad. Sefydlwyd yr ysgol ym 1898 fel Ysgol Ramadeg Pen-y-groes ar y safle lle saif ysgol gynradd y pentref, sef Ysgol Bro Lleu, heddiw.

Roedd 558 o ddisgyblion yn yr ysgol yn 2006. Gall 91% o'r disgyblion siarad Cymraeg i lefel iaith gyntaf, er mai 78% sy'n dod o gartrefi lle mai'r Gymraeg yw'r brif iaith.

Eisteddfod Gadeiriol Ysgol Dyffryn Nantlle, a gynhelir ar ddiwedd mis Hydref, ydi un o'r Eisteddfodau Ysgol hynaf yng Nghymru. Yn Rhagfyr 2008, fe wnaeth yr ysgol gymryd rhan mewn cyngerdd ynghyd â Bryn Terfel yn Galeri, Caernarfon, gan ganu chwe chân newydd â gomisiynwyd gan Robat Arwyn - yn dwyn y teitl: 'Yn d'Olau di'.

Ceir tua 550 o ddisgyblion yn yr ysgol, ac mae'n gwasanaethu Pen-y-groes a phentrefi cyfagos Dyffryn Nantlle.[1]


Disgyblion enwog

R. Williams Parry, bardd; Betty Williams, cyn Aelod Seneddol; Robat Arwyn, cyfansoddwr; Owain Fôn Williams, pêl-droediwr ac arlunydd; Mari Emlyn, digrifwraig; Bryn Fôn, actor a chanwr; Dafydd Glyn Jones, ysgolhaig; Wynfford Ellis Owen, awdur, actor; Gerallt Pennant, naturiaethwr, cyflwynydd; Cefin Roberts, awdur a hyfforddwr cerdd; Bryn Terfel, canwr opera byd enwog; Angharad Tomos, awdures; Aled Jones Williams, awdur; Rhiannon Wyn, awdures. Elan Closs Stephens, darlithydd ac addysgwraig.

Dolenni allanol

Gwefan Swyddogol

Erthygl am Ysgol Dyffryn Nantlle ar Wicipedia

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma