Plas Tal-y-sarn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:39, 9 Ebrill 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Plas Tal-y-sarn, sydd yn furddun erbyn hyn, yn sefyll ar ochr yr hen lôn o Ben-y-groes i Nantlle i'r dwyrain o bentref presennol Tal-y-sarn, yng nghanol gweithfeydd a thomenni llechi'r oes o'r blaen. Mae'n dyddio'n wreiddiol o'r 18g, gyda llawer o welliannau diweddarach. Dichon iddo gymryd ei enw oddi wrth Sarn Wyth Dŵr ar hyd yr hwnnw y redai ffordd o Dan'rallt a Dol Bebin ar draws corsydd gwaelod y dyffryn gan gwrdd â'r ffordd o Ben-y-groes i Nantlle. Rhedai Rheilffordd Nantlle yn syth y tu ôl i'r Plas.

Adeilad ydoedd a helaethwyd yn y 19g, fel tŷ mawr tri llawr. Saif ar gyrion Chwarel Tal-y-sarn a gwasanaethai fel cartref yn gyntaf i reolwr y chwarel, George Bowness a'i teulu erbyn 1851,[1] ac wedyn i berchennog y chwarel honno, sef John Robinson a symudodd yno yn ystod y 1860au. Roedd yno gerddi, stablau a holl adeiladau atodol eraill y byddai rhywun yn eu gweld ger tŷ mawr o'r fath, gan gynnwys hyd yn oed capel Gothig ei arddull. Mae map Ordnans 1916 yn dangos gerddi addurniedig gyda ffynnon (fountain) o flaen ac i ochr y Plas, a dywedir bod honno wedi codi i ddynodi penbwlydd 21 oed un o ferched y teulu.[2]

Ar ôl marwolaeth ei fab, Thomas Robinson, ym 1905, fe werthwyd y Plas i gwmni Chwarel Dorothea. Defnyddid rhai o'r adeiladau fel swyddfeydd a baddondy i'r gweithwyr yn y chwarel. Efallai mai dyma pam y gelwyd y Plas yn "Blas Dorothea" weithiau. Oherwydd tŵf y chwareli, fodd bynnag, a'r ffaith fod cwymp o graig yn Chwarel Dorothea i'r de wedi dod yn agos at dir y Plas, fe'i gadawyd ac yn raddol mae wedi dadfeilio, er bod digon o'r waliau ar ôl i rywun gael syniad o faint ac edrychiad y lle pan oedd yn ei anterth.[3]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiad Llandwrog 1851
  2. Gwefan Coflein, safleoedd 16874, 31440, 86485 (cyrchwyd 9.4.2019) [1]
  3. Gwefan Grand Designs - Welsh Ruins and Welsh Ruined Mansions (cyrchwyd 9.4.2109 [2]