Plas Tal-y-sarn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:09, 9 Ebrill 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Plas Tal-y-sarn, sydd yn furddun erbyn hyn, yn sefyll ar ochr yr hen lôn o Ben-y-groes i Nantlle i'r dwyrain o bentref presennol Tal-y-sarn, yng nghanol gweithfeydd a thomenni llechi'r oes o'r blaen. Dichon iddo gymryd ei enw oddi wrth Sarn Wyth Dŵr ar hyd yr hwnnw y redai ffordd o Dan'rallt a Dol Bebin ar draws corsydd gwaelod y dyffryn gan gwrdd â'r ffordd o Ben-y-groes i Nantlle.

Adeilad ydoedd a helaethwyd yn y 19g, ar gyrion Chwarel Tal-y-sarn fel cartref i berchennog y chwarel honno, sef John Robinson a symudodd yno yn ystod y 1860au. Roedd yno gerddi, stablau a holl adeiladau atodol eraill y byddai rhywun yn eu gweld ger tŷ mawr o'r fath. Oherwydd tŵf y chwareli, fodd bynnag, a'r ffaith fod ffordd newydd i'r de o'r afon wedi ei wneud yn y 1920au, gadawyd y Plas ac yn raddol mae wedi dadfeilio, er bod digon o'r waliau ar ol i rywun gael syniad o faint ac edrychiad y lle pan oedd yn ei anterth.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau