George Bettiss

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:55, 6 Ebrill 2019 gan 92.3.11.213 (sgwrs)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd George Bettiss yn ffigwr amlwg ym mywyd Caernarfon a Dyffryn Nantlle ar ddechrau'r 19g. Bu'n rheoli Gwesty'y Sportsman yn Stryd y Castell, Caernarfon, un o brif westai neu dafarnau'r dref lle cychwynnodd coetsis. Yn y Sportsman arhosodd Dr Samuel Johnson a Mrs Thrale wrth ymweld â'r ardal. Mae cyfeiriad ato yn y Sportsman ym 1789, pan gafodd ei ymrwymo i gadw'r gyfraith fel tafarnwr (neu victualler).[1]

Roedd George Bettiss hefyd yn asiant i Ystad Glynllifon a'r Arglwyddi Newborough,yn prynu nwyddau, edrych at faterion ynglŷn â thenantiaeth eiddo'r ystad yn y dref. Mae dwsinau o'i lythyrau at y 3ydd Arglwydd Newborough ymysg archifau Glynllifon yn Archifdy Gwynedd.[2]

Yn ogystal â hyn oll, bu'n bartner yn un o chwareli Dyffryn Nantlle, Chwarel Hafodlas o tua 1810 ymlaen. Roedd yn amheus ar y dechrau o adeiladu Rheilffordd Nantlle, ac nid Hafodlas oedd ymysg y chwareli cyntaf i ddefnyddio'r rheilffordd pan iddi agor ym 1828, er i lechi Hafodlas gael eu cludo ar hyd-ddi o Ionawr 1829 ymlaen.[3] Dichon mai oherwydd y ffaith nad oedd Ystad Glynllifon â diddordebau ym maes llechi'r dyffryn ac yntau'n asiant iddi y bu'n hwyrfrydig i groesawu'r rheilffordd i'r lle er iddo fod yn aelod o fwrdd y cwmni o'r dechrau, ac yn berthen ar 5% o'r cyfranddaliadau.[4]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Archifdy Caernarfon, XQS/1789/152
  2. Archifdy Caernarfon, XD2/passim.
  3. G.H. Williams, Swn y Trên sy'n Taranu, (Caernarfon, 2018).
  4. Archifdy Caernarfon, XM/9309/4