Cilfechydd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 00:56, 24 Chwefror 2019 gan Llifon (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Tyddyn o’r enw Cilfechydd, Y Waunfawr (yn ffinio gyda Parc Dudley, Betws Garmon).

Cyfeiria Glenda Carr yn ei hastudiaeth ddarllênadwy, ddeallus a dibynadwy Hen Enwau at annedd o’r enw Cilfechydd rhwng y Waunfawr a Betws Garmon. Nodir bod ‘cilfechydd’ yn cynrychioli lluosog ‘cilfach’. Cynnig arall sydd gennyf am yr ystyr. Yn gyntaf, ffurf luosog anarferol yw ‘cilfechydd’. Digwydd y ffurf ym Meibl William Morgan (1588, Doeth Sol xvii. 13). Yn rhyfedd ddigon ceir y lluosog arferol ‘cilfachau’ yn Job (xxxix. 8). Hyd y gwn i dyma’r unig waith y cawn y lluosog hwn - tybed ai mympwy (neu gamgymeriad) William Morgan ei hun sy’n gyfrifol. Byddai’n ddiddorol gwybod rhagor. Gellir cael argraff glir o leoliad y fferm yma[1]. Cliciwch ar ‘satellite’ am lun eglurach. Ar ‘getamap’ yr Arolwg Ordnans gellir ei weld hefyd (SH525586)[2]. Wn i ddim a yw’r lleoliad yn cyfateb i’r syniad o gilfachau. Ni welaf ond llethrau a dolydd ac mae’r fferm ger lôn weddol brysur ac ar un o’r prif ffyrdd trwy Eryri. Fyddwn i wrth gwrs ddim yn cynnig ei bod yn briffordd yn yr oesoedd canol. Onid llecynnau mwy diarffordd a gynrychiolir gan ‘Gilfach’?” I dorri llith hir a chynhwysfawr yn fyr mae Guto Rhys yn cynnig "mai cil+ Mechydd sydd yma, enw personol. Yn wir digwydd cil + enw personol lawer gwaith, Cil Ddewi (Fawr), Cil Dyfnog, Cil Gwgan (=Gwgon??), Cil Gwrgan, Cil Hernin, Cil Ifor, Cil Owen, Cil Seiriol, Cil Wnwg (< Gwynnog ??) - oll yn AMR. Awn i ddim i daeru mai enwau personol yw pob un ond digwyddant oll yn WCD[1]. Mae’n ddigon i ddangos bod y cynnig yn ddichonadwy. Tybed faint ohonynt sy’n seintiau. Mae encilio i fan anghysbell yn nodwedd (ddealledig) o seintiau cynnar. Tybed a oes yma gapeli".[2][3]Nodyn:Mae yna lecyn canol oesol o’r enw Capel Garmon ar yr un llethrau heb fod nepell i ffwrdd

Llythyr mewn ymateb i’r uchod gan Glenda Carr:

Roedd gennyf ddiddordeb yn esboniad Guto Rhys o'r enw 'Cilfechydd' yn rhifyn diweddaraf Llên Natur. Fel y dywed, mae'n beth cyffredin iawn cael 'cil' + enw priod (neu, yn wir, enw cyffredin, fel yn enw 'Cilgwythwch', Llanrug). Mae'n wir hefyd fod 'cilfechydd' yn ffurf luosog bur anghyffredin ar 'cilfach'. Mae GR yn amlwg wedi codi ei enghreifftiau o Eiriadur Prifysgol Cymru. Ond nid yw hynny'n golygu nad oes yna enghreifftiau eraill o'r ffurf. Fel mae'n digwydd, yr oedd ty o'r enw Tyddyn Cilfechydd yn Llanaelhaearn ar un adeg, felly nid yw'n unigryw. Mae'n wir y byddai'r ffurf Cil + Mechydd yn bosib. Ond pwy oedd Mechydd? Os mai Cil Mechydd yw'r ystyr, byddwn wedi disgwyl gweld yr enw wedi ei sillafu fel dau air rywbryd yn ystod ei hanes, neu gael rhyw ffurf fel 'Cilmechydd'. Mae gennyf restr hir o enghreifftiau o'r enw hwn o 1690 ymlaen a'r un yw'r ffurf bob tro, sef 'Cilfechydd', ac eithrio'r ffurf od 'Chilpechydd' yn 1796. Unwaith yn unig y gwelais yr enw wedi ei sillafu fel 'Cil Fechydd', a hynny yng Nghyfeiriadur y Cod Post yn y flwyddyn 2000 - prin y ffynhonnell fwyaf sylweddol. Fodd bynnag, y ddadl gryfaf yn erbyn yr ystyr 'Cil Mechydd' yw bod y fannod wedi ei chynnwys ym mhob enghraifft a welais rhwng 1690 a 1743 (rhyw 6 enghraifft). Yn 1690 cyfeirir at 'y Cilfechydd' a 'buarth y Cilfechydd'. Yn sicr, ni ddefnyddid y fannod yn y safle hwn os mai 'Cil Mechydd' oedd yr ystyr. Ni wyddom pa gilfachau neu gilfechydd a welodd y sawl a'i henwodd yn yr ail ganrif ar bymtheg neu cyn hynny, ond mae'n debyg ei fod wedi gweld pethau nas gwelir ar Google Maps ac nid yw syniad pawb o gilfach yr un fath.[4]
  1. A Welsh Classical Dictionary, Bartrum,1993
  2. Guto Rhys 263839124470@groups.facebook.com
  3. Bwletin Llên Natur rhifyn 50 (tudalen 4[3]
  4. Glenda Carr ym Mwletin Llên Natur 51[4]