William Owen (Gwilym Ddu Glan Hafren)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:48, 11 Chwefror 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ganwyd William Owen (Gwilym Ddu Glan Hafren) ym Mrynhafod, yn ardal Capel Uchaf, Clynnog Fawr ym 1788. Bu farw ym 1838. Disgrifodd Eben Fardd o fel sgolar ardderchog, bardd a cherddor gwych. Cafodd ei enw farddol o'i ardal fabwysiedig, gan iddo symud i Sir Drefaldwyn tua 1815 i gadw ysgol yn y Trallwng, ac wedyn yn y Drenewydd lle y bu farw. Bu'n bregethwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, ac ymddiddorodd mewn emynau a dulliau canu cynulleidfaol.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Y Bywgraffiadur Cymreig ar-lein, [1]