Pont Ffatri

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:53, 7 Chwefror 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Saif Pont Ffatri rhwng Pen-y-groes a phentref Llanllyfni ar yr hen briffordd i Dremadog, ger y ffatri wlân ar Afon Llyfnwy.Enw swyddogol y bont yw Pont Llanllyfni.

Pont un bwa yw, wedi ei adeiladu o’r newydd ym 1855, yn lle’r un oedd yno gynt. Mae ei huchder yn 12 troedfedd, ac mae’n 30 troedfedd o un ochr i’r llall. Yr un pryd, fe wnaed cryn welliant i raddiant y ffordd gan leddfu’r oleddf rhwng yr afon a’r pentref. Fe’i hadeiladwyd gan William Thomas, adeiladydd o Ffordd Ysgubor Degwm yng Nghaernarfon. Cost y gwaith oedd £685.[1] Roedd yr ailraddio'n golygu ailadeiladu 100 llath o ffordd dyrpeg, a achosodd gryn trafferth i syrfewr y prosiect, Richard Owen, gan nad oedd hi wedi ei chwblhau erbyn Rhagfyr y flwyddyn honno.[2]

Mae'r enw lleol ar y bont yn cyfeirio at Ffatri wlân Bryn sydd gerllaw.


Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Caernarfon, XPlansB/27
  2. Archifdy Caernarfon, XD2/25083.