Pont Sarn Wyth-dŵr

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:10, 26 Ionawr 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Safai Pont Sarn Wyth-dŵr ger Chwarel Tal-y-sarn, plwyf Llandwrog, ac fe ail-adeiladwyd ym 1855 ar draws yr Afon Llyfnwy. Roedd un prif fwa a saith sianel lai. Defnyddiodd yr ymgymerwr wâst o’r chwareli lleol i codi a chryfhau’r sarn. John Prichard, Brynhyfryd, plwyf Llanbeblig oedd yr ymgymerwr ym 1855 ac fe gytunodd i wneud y gwaith a gwneud gwaith cynnal a chadw arni am saith mlynedd am y gost o £70.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Caernarfon, XPlansB/20