W. Gilbert Williams

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:21, 21 Mawrth 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ysgolfeistr a hanesydd lleol oedd William Gilbert Williams (20 Ionawr 1874- 10 Hydref 1966).

Fe'i ganed yn Nhŷ’r Capel, Rhostryfan, Llanwnda. Roedd yn fab i John Williams, chwarelwr, a Catherine Jones. Buodd yn gweithio yn Chwarel Cilgwyn ac wedyn aeth ymlaen i fod yn athro, ac wedyn i’r Coleg Normal ym Mangor rhwng 1892-1894. Roedd yn Brifathro ysgol Felinwnda, Llanwnda o ddyddiad ei hagor ym 1895 ac wedyn yn Rhostryfan rhwng 1918 a 1934. Bu'n flaenor yn Horeb (MC), Rhostryfan am flynyddoedd lawer, ac yn gynghorydd dosbarth a sirol rhwng 1951 a 1961.

Bu'n un o brif ysgogwyr sefydlu Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon ym 1939. Buodd hefyd yn ymwneud llawer â hanes lleol, a derbyniodd gradd M.A. er anrhydedd oddi wrth Prifysgol Cymru am ei gyfraniad i hanes Cymru. Dechreuodd ysgrifennu erthyglau i bapurau lleol yn seiliedig ar ymchwil manwl ymysg papurau hanesyddol y sir o ddechrau'r 20g ymlaen, gan gyhoeddi erthyglau eraill ar ffurf pamffledi bach a argraffwyd ar ei beiriant argraffu bach ei hun. Arbenigai yn hanes y 17g., er bod llawer o'i ysgrifau hefyd yn ymwneud â hanes plwyfi Llanwnda a Llandwrog a'r mân foneddigion a drigai yno dros y canrifoedd. Fe'i gyfrifir ymysg y goreuon o haneswyr lleol 'gwyddonol' cynnar, yn seilio ei gasgliadau ar ffeithiau profedig yn hytrach na straeon gwlad.

Ysgrifennodd o leiaf ddwy ddrama hanesyddol a pheth barddoniaeth hefyd. Weithiau arddelai'r enw barddol Gilbart.

Brawd iddo oedd John Williams (J.W.), Llundain, a gyhoeddodd ei hunangofiant sydd yn rhoi manylion cartref a blynyddoedd cynnar Gilbert Williams.

Ceir casgliadau o'i waith ymchwil, yn nodiadau, traethodau, a dogfennau a gasglodd yn y dyddiau cyn bod archifdai, yn Archifdy Caernarfon ac Archifdy Prifysgol Bangor.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma